ADRODDIAD I’R PWYLLGOR IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL – GWEITHREDU DEDDF GWASANAETHAU CYMDEITHASOL A LLESIANT (CYMRU) 2014.

Cefndir

  1. Derbyniodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)[1] Gydsyniad Brenhinol ar y 1af Fai 2014. Ei phwrpas yw pennu’r fframwaith cyfreithiol craidd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yng Nghymru, er mwyn gweithredu’r polisi a gafodd ei ddatgan yn y Papur Gwyn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu[2]. Bydd y Ddeddf yn trawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau cymdeithasol eu darparu drwy ddull sy’n canolbwyntio ar sicrhau’r canlyniadau sy’n angenrheidiol i hybu llesiant person – fel unigolyn, fel rhan o deulu ac fel rhan o’i gymuned.

 

2.      Er mwyn gwneud hyn mae gofyn bod pobl yn cael mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth clir a bod eu llais hwy yn cael ei osod wrth ganol penderfyniadau ynglŷn â’u gofal a'u cymorth. Mae'r Ddeddf yn cyflwyno fframwaith statudol cryf ar gyfer amddiffyn oedolion, a threfniadau arweinyddiaeth genedlaethol ar gyfer diogelu pobl. Mae hefyd yn cydnabod y rôl allweddol a chwaraeir gan ofalwyr, drwy roi iddynt hwythau hawliau i gefnogaeth sy'n cyfateb i hawliau y bobl y maent yn gofalu amdanynt, a hefyd bwysigrwydd atal ac ymyrryd yn gynnar i helpu pobl i fyw'n annibynnol.

 

3.      Er bod elfennau craidd y fframwaith deddfwriaethol newydd wedi eu hegluro ar wyneb y Ddeddf, deddf sy’n galluogi yw hon o ran natur a bydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru greu casgliad o is-ddeddfau, yn ogystal â chyhoeddi codau ymarfer a chanllawiau, i lenwi i mewn fanylion y system newydd a chefnogi ei gweithrediad.

 

  1. Mae gweithredu yn mynd rhagddo yn unol â’r cynllun a luniwyd ar gyfer ymdrin â gweithrediad, gan ddelio â'r dull o ymgynghori ynghylch rheoliadau a’u gosod ynghyd â chodau ymarfer, a gytunwyd gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol. Roedd y dull gweithredu cyffredinol yn destun Datganiad gan y Gweinidog ar 16 Gorffennaf 2014[3]. Mae’r Gweinidogion wedi cytuno y dylai’r Ddeddf ddod i rym o fis Ebrill 2016.

 

Gweithrediad: amserlen ar gyfer llunio is-ddeddfwriaeth dan y Ddeddf

 

5.  Caiff y rheoliadau a’r codau ymarfer eu gosod fesul cam, gydag ymgynghoriad i gael ei gynnal ar y gyfres gyntaf o reoliadau (ynghyd â'u codau ymarfer a/neu ganllawiau statudol cysylltiedig) am ddeuddeg wythnos o fis Tachwedd 2014 i Ionawr 2015. Cynhelir dau ddigwyddiad ymgynghori, un yng Ngogledd Cymru ac un yn Ne Cymru, i gefnogi'r ymgynghoriad hwn. Wedyn, caiff y rheoliadau, fel y’u diwygiwyd yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, eu gosod gerbron y Cynulliad ym mis Mai 2015. Mae'r gyfres hon yn cynnwys y rheoliadau ar gymhwystra o dan adran 32 y Ddeddf.

 

6     Ymgynghorir ynghylch ail gyfres o reoliadau yn ystod haf 2015, ac fe’u gosodir, ochr yn ochr â'r gyfres lawn o godau, gerbron y Cynulliad ym mis Tachwedd 2015.

 

7     Caiff memoranda esboniadol llawn ac asesiadau effaith rheoleiddiol eu gosod ochr yn ochr â'r rheoliadau yn eu cyfresi priodol.

 

8     Bydd yr amserlen hon yn sicrhau gweithredu'r Ddeddf yn llawn ac yn caniatáu iddi ddod i rym ym mis Ebrill 2016.

 

Dod i rym
 
 Ebrill 2016
 Ymgynghoriad
 (Tachwedd 2014 – Ionawr 2015)
 Amserlen ‘Cyfresi’ Lefel Uchel

Datblygu Cyfarwyddiadau Polisi a Rheoliadau/
 Codau Ymarfer Drafft (hyd Hydref 2014)
Gosod y Rheoliadau Diwygiedig i’r Cynulliad graffu arnynt 
 (Mai-Mehefin 2015)
 

Cyfres 1                               

Datblygu Cyfarwyddiadau Polisi a Rheoliadau/Codau Ymarfer Drafft (hyd Mawrth 2015),Gosod y Rheoliadau Diwygiedig i’r Cynulliad graffu arnynt (Tachwedd 2015)
 
 ,Cyfres 2,Ymgynghoriad
 (Mai – Gorff 2015)
 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


9     Cyhoeddwyd datganiad cyfnerthedig o fwriad polisi ar gyfer y darnau mawr o is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf ar 30 Ionawr 2014 ac fe'i defnyddiwyd yn sail i ddatblygu rheoliadau, canllawiau statudol a chodau ymarfer i ategu'r Ddeddf.

 

10  Mae’r darpariaethau craidd o fewn cyfres 1 yn ymwneud â chymhwystra, asesu, cynllunio gofal a chefnogaeth a thaliadau uniongyrchol yn rhannau 2 i 4 o'r Ddeddf, ynghyd â diogelu (rhan 7) a charcharorion a phreswyliad arferol yn rhan 11. Mae’r gyfres hon yn cynnwys 13 set o reoliadau (a restrir yn Atodiad A), pedwar cod ymarfer, ac un ddogfen o ganllawiau statudol. Pennwyd amseriadau’r gyfres hon er mwyn ei gwneud yn bosibl creu’r fframwaith deddfwriaethol o gwmpas y darpariaethau allweddol hyn yn haf 2015, gan roi amser i'r sectorau gofal cymdeithasol ac iechyd addasu i'r gofynion newydd cyn iddynt gael eu gweithredu ym mis Ebrill 2016.

 

11  Cynhelir ymgynghoriad ar Gyfres 2, sy’n ymdrin yn bennaf â'r fframwaith ar gyfer gweithredu darpariaethau ynghylch talu am ofal yn rhan 5 y Ddeddf, a phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya yn rhan 6, yn ystod haf 2015, gyda golwg ar gyflwyno'r rheoliadau, ynghyd â'r codau ymarfer ar gyfer y Ddeddf gyfan, ym mis Tachwedd 2015.

 

Gweithredu: datblygu'r is-ddeddfwriaeth sydd i gael ei gwneud o dan y Ddeddf

 

12  Gan gydnabod pwysigrwydd arbenigedd technegol y sector wrth ddatblygu'r Rheoliadau a'r Codau Ymarfer ar gyfer ymgynghori, sefydlodd y swyddogion, oedd yn arwain datblygiad polisi ar draws cyfres 1, Grwpiau Technegol a darparwyd mewnbwn ymgynghorol mewn perthynas â diogelu gan Banel Ymgynghorol Diogelu[4]. Darparodd y grwpiau hyn yr arbenigedd perthnasol i lywio datblygiad manwl cyfarwyddiadau polisi ar gyfer rheoliadau a chynnwys y Codau Ymarfer a'r canllawiau statudol. Cymerodd dros ddau gant o bobl ar draws llywodraeth leol, y GIG, darparwyr gofal preifat a'r trydydd sector ran yn y gwaith hwn, gyda golwg ar sicrhau ymgysylltiad ac arbenigedd ar raddfa eang. Gellir cael copïau o adroddiadau nifer o’r grwpiau technegol hyn ar wefan Llywodraeth Cymru[5].

 

13  Daethpwyd ag aelodau'r grwpiau technegol ynghyd mewn digwyddiad i randdeiliaid, a gynhaliwyd ar 11 Medi 2014 ym Mhrifysgol Glyndwr, Wrecsam. Edrychai’r digwyddiad hwn yn benodol ar fater cysondeb ar draws y fframwaith deddfwriaethol oedd yn datblygu i hysbysu’r pecyn oedd yn cael ei gyflwyno ar gyfer ymgynghoriad.

 

 

14  Mae’r swyddogion sy’n arwain datblygiad polisi ar draws cyfres 2 o'r rheoliadau a’r codau ymarfer wedi dechrau ffurfio Grwpiau Technegol neu fecanweithiau ymgysylltu eraill i lywio datblygiad a chwblhau’r polisi’n derfynol.

 

Integreiddio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

15  Bwriad y Ddeddf yw hyrwyddo integreiddiad iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Fe'i datblygwyd drwy gydweithio'n agos â chydweithwyr yn y GIG a gyda chyfraniad brwd y Fforwm Partneriaeth cenedlaethol a'r Grŵp Arweinyddiaeth, sydd ill dau yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sector iechyd yng Nghymru.

 

16  Mae pwyslais ar integreiddio a gweithio ar y cyd wedi ei ymgorffori’n benodol yn adran 165 y Ddeddf, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG gydweithredu ag awdurdodau lleol a darparu gwybodaeth iddynt, pan ofynnir am hynny, i'w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

 

17  At hynny, mae yna nifer o ddyletswyddau y mae’r Ddeddf yn eu gosod yn benodol ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG. Mae'r rhain yn ymwneud â meysydd fel asesu a chynllunio ar gyfer poblogaeth ac unigolion, darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth, diogelu a thrafod a chydweithredu ei hun. Rhestrir y dyletswyddau hyn yn Atodiad B y papur hwn.

 

Goblygiadau ariannol a'r cymorth ar gyfer gweithredu

 

18  Cytunodd y Dirprwy Weinidog blaenorol dros Wasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Weinidog ar yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol (a'r Memorandwm Esboniadol y mae'n rhan ohono) mewn perthynas â'r Ddeddf a chyhoeddwyd hwn fel rhan o'r Memorandwm Esboniadol ar y Mesur pan gafodd ei gyflwyno ar 28 Ionawr 2013. Gosodwyd fersiwn diwygiedig gerbron ar 28 Ionawr 2014, ar ôl cwblhau cam 2. Cytunodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Benderfyniad Ariannol y Mesur ar 8 Hydref 2013.

 

19  Caiff goblygiadau ariannol manwl gweithredu'r rheoliadau eu nodi yn yr Asesiadau Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y setiau unigol o reoliadau, a ddatblygir i fod o gymorth gyda’r broses graffu. Mae'r sefyllfa hon yn gyson â'r Memorandwm Esboniadol fel y cafodd ei ddiwygio yng ngham 2. Byddwn yn edrych am wybodaeth i gyfrannu at yr asesiadau hyn fel rhan o'r broses ymgynghori.

 

 

20  Fel yr amlinellwyd yn natganiad ysgrifenedig y Cabinet ar 29 Ionawr ynghylch gweithredu[6], mae grant o £1.5 miliwn ar gael i lywodraeth leol a phartneriaid, gan gynnwys Byrddau Iechyd Lleol a Chydffederasiwn GIG Cymru, i ariannu gweithgarwch gweithredu yn 2014-15.

 

21  Mae’r grant hwn yn adeiladu ar yr hyn a ddarparwyd yn 2013-14 ond mae wedi'i deilwra ymhellach i ysgogi gweithgaredd gweithredu yn y rhanbarthau.

 

22  Mae’r patrwm darparu rhanbarthol a ddewiswyd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy yn cyd-fynd ag ôl-troed y Byrddau Iechyd Lleol ac fe’i bwriadwyd i hybu cydweithredu rhwng y Bwrdd Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol yn ei ardal ôl troed er mwyn cyflawni nodau Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy. Er mwyn atgyfnerthu'r cydweithio hwn, mae telerau grant 2014-15 yn cynnwys y gofyniad i ddatblygu llywodraethu rhanbarthol sy'n adlewyrchu’r strwythur llywio ac ymgysylltu cenedlaethol[7] y Fforwm Partneriaeth (gwleidyddol) a'r Grŵp Arweinyddiaeth (gweithredol). Mae strwythur gweithredol i fod yn ei le erbyn 31 Ionawr 2015

 

23  Peth arall allweddol a gyflawnir o ganlyniad i'r grant rhanbarthol yw datblygu cynllun gweithredu rhanbarthol cynhwysfawr erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2014-15. Defnyddir y cynlluniau hyn ochr yn ochr â'r ymateb i'r ymgynghoriad ar gyfres 1 fel sail i ganfod unrhyw gymorth ychwanegol y mae ar y sector ei angen i hwyluso gweithredu.

 

24  Gwneir darpariaeth hefyd ar gyfer grantiau ar lefel genedlaethol i gefnogi ymgysylltu strategol a gwneud darpariaeth ranbarthol yn bosibl. Derbynwyr y grantiau cenedlaethol yw Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chydffederasiwn GIG Cymru, ac (am y tro cyntaf) y Gynghrair Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Fforwm Gofal Cymru. Mae’r grantiau olaf yn cydnabod cyfraniad allweddol y sectorau preifat a gwirfoddol i weithrediad llwyddiannus.

 

 

Cymorth ar gyfer gweithredu: cyfathrebu

 

25  Mae prosiect "Cyfleu’r Newidiadau", sy’n rhan o Raglen y Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy ar gyfer Cymru, yn neilltuo ffrwd gwaith yn gyfan gwbl i weithredu, sy’n cymryd lle ffrwd waith y Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) blaenorol.

 

26  Mae cynigion yn cael eu hystyried a’u coladu ar gyfer ymgyrch gwybodaeth i’r cyhoedd i'w chynnal yn ystod 2015-16, ac mae’r cynlluniau cyfathrebu ar gyfer gweddill y flwyddyn hon yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau wedi'u hanelu at awdurdodau lleol, darparwyr gofal annibynnol a staff y GIG, ynghyd â rhanddeiliaid a dinasyddion. Bydd negeseuon allweddol Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy yn parhau i gael eu lledaenu drwy'r amrywiaeth bresennol o sianeli, a’r rheiny a sefydlwyd fel rhan o'r prosiect cyfathrebu.

 

 

Cymorth ar gyfer gweithredu: hyfforddiant

 

27  Mae’r gofynion hyfforddi ar gyfer gweithredu wedi eu cynnwys yn y prosiect Tîm (gweithlu) Cyflawni Cryf a Hyderus o fewn Rhaglen y Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy. Mae rhaglen hyfforddiant y lefel gyntaf wrthi’n cael ei chynllunio ar hyn o bryd ar gyfer yr holl staff craidd a’r asiantaethau sy’n bartneriaid, gan gynnwys y GIG, sy'n rhan o’r gwaith o weithredu’r Ddeddf. Caiff y rhaglen hon ei chynhyrchu fel 'pecyn' sy’n barod i’w ddefnyddio, gyda fframwaith ar gyfer ei gyflwyno, a bydd rhaglen yn cael ei sefydlu i hyfforddi hyfforddwyr i gyflwyno’r pecyn hwn. Disgwyliwn y bydd y don gyntaf o hyfforddiant yn dechrau yn y flwyddyn ariannol hon, gyda'r awdurdodau lleol yn chwarae rôl flaenllaw mewn cynllunio a darparu'r hyfforddiant gyda'u partneriaid, yn unol â disgwyliadau eu rôl yn Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol.

 

28  Ochr yn ochr â hyn, mae gwaith ar y gweill i sicrhau bod yr hyfforddiant a'r cymwysterau presennol wedi eu halinio’n briodol i'r Ddeddf yn ogystal â datblygu pecynnau hyfforddiant pwrpasol pellach i gefnogi elfennau penodol o'r Ddeddf. Bydd y rhain ar gael yn ystod 2015-16.

 

29  Mae swyddogion yn symud y gwaith hwn yn ei flaen mewn partneriaeth lawn gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys Cyngor Gofal Cymru, prifysgolion sy’n bartneriaid ac awdurdodau lleol, gyda chymorth cynllun cyffredinol sy’n cael ei ddatblygu i gydlynu’r gweithgaredd hwn.

 

 

Y prosiect gweithredu: llywodraethu

 

30  Sefydlwyd Prosiect a Bwrdd gweithredu o dan raglen Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy ar gyfer Cymru i lywio gweithgaredd cysylltiedig â gweithredu o fewn Llywodraeth Cymru. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar reoli datblygiad y pecyn o is-ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer ategol sy'n deillio o'r Ddeddf, yr ymgynghoriad yn ei gylch, a’i ymddeddfiad. Mae hefyd yn cadw cysylltiad â gweithgarwch allweddol, cysylltiedig â gweithredu, sy’n cael ei arwain mewn mannau eraill yn y Rhaglen.

 


 

Atodiad A

 

Gwneuthuriad y fframwaith deddfwriaethol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 – Cyfres 1

Amseriadau Allweddol Cyfres 1

Ymgynghoriad                                                              Tachwedd 2014 am 12 wythnos

Rheoliadau i’w gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru                  Mai 2015

Dadleuon llawn ar reoliadau cadarnhaol                          Mehefin-Gorffennaf 2015

Dod i rym                                                                                             Ebrill 2016

 

Math o offeryn

 

Y Rhan Berthnasol o’r Ddeddf 

 

Cyhoeddwyd yr adran dan

 

 

Testun

Teitl (arfaethedig)

 

Gweithdrefn

Rheoliadau

2

 

(Swyddogaethau Cyffredinol)

14

 

Asesu anghenion gofal a chefnogaeth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol

 

Rheoliadau Gofal a Chefnogaeth (asesiad poblogaeth) (Cymru) 2015

 

Negyddol

Rheoliadau

2

16

 

Hybu mentrau cymdeithasol

 

Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Menter Gymdeithasol, Cydweithredu a’r Trydydd Sector) (Cymru) 2015

Cadarnhaol

Cod ymarfer

2

145

Llesiant, Asesiad Poblogaeth, Atal, Hybu Mentrau Cymdeithasol a Darparu Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth

 

 

Cod Ymarfer a chanllawiau ar gyflawni swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol a threfniadau partneriaeth mewn perthynas â rhan 2 (Swyddogaethau Cyffredinol) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Fel yr eglurwyd yn Adran 146 (arbennig)

Rheoliadau

3

 

(Asesu anghenion unigolion)

 

30

 

Rheoliadau ynghylch asesu

 

Rheoliadau Gofal a Chefnogaeth (Asesiad) (Cymru) 2015

Negyddol

Cod ymarfer

3

145

Asesu anghenion unigolion

 

 

Cod ymarfer ar gyflawni swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â rhan 3 (Asesu anghenion unigolion) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Fel yr eglurwyd yn Adran 146 (arbennig)

Rheoliadau

4

 

(Ateb anghenion)

32

 

Penderfynu cymhwystra ac ystyried beth i’w wneud i ateb anghenion

 

Rheoliadau Gofal a Chefnogaeth (Cymhwystra) (Cymru) 2015

Cadarnhaol dros ben

Rheoliadau

 4

50,51,52,53

 

Taliadau Uniongyrchol

Rheoliadau Gofal a Chefnogaeth (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2015

Negyddol

 

Rheoliadau

 4

 

54(5) a 55

 

Cynlluniau Gofal a Chefnogaeth

Rheoliadau Gofal a Chefnogaeth (Cynllunio Gofal) (Cymru) 2015

Negyddol

Cod ymarfer

4

145

Cymhwystra, cynllunio gofal a chefnogaeth a thaliadau uniongyrchol

Cod ymarfer ynghylch cyflawni swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â rhan 4 (Ateb anghenion) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Fel yr eglurwyd yn Adran 146 (arbennig)

Rheoliadau

7

 

(Diogelu)

 

 

127(9)

 

Swyddogion wedi eu hawdurdodi i wneud cais am Orchmynion Amddiffyn a Chefnogi Oedolion

 

Rheoliadau Gorchmynion Amddiffyn a Chefnogi Oedolion (Swyddog Awdurdodedig) (Cymru) 2015

Cadarnhaol

Rheoliadau

7

133

 

Rheoliadau ynghylch y Bwrdd Cenedlaethol

 

Rheoliadau’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol 2015

 

Negyddol

Rheoliadau

7

134(1), (3) a (6) 135(4), 136(3), 138 a 139

 

 

Rhagnodi meysydd ar gyfer y Byrddau Diogelu newydd a materion cysylltiedig yn ymwneud â gweithrediadau’r Bwrdd

 

 

Rheoliadau’r Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015

 

Rheoliadau’r Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) 2015

 

Negyddol

 

135(4) - Cadarnhaol

Canllawiau Statudol

7

131 a 139

Gorchmynion Amddiffyn a Chefnogi Oedolion, y ddyletswydd i adrodd ac ymholi, Byrddau Diogelu a’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

 

Arweiniad statudol mewn perthynas â rhan 7 (Diogelu) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Dim

 

(Mae’n ofynnol ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â’r arweiniad a roddir dan a.131)

Rheoliadau

 9

(Cydweithrediad a Phartneriaeth)

 

166

Trefniadau partneriaeth

 

Rheoliadau Gofal a Chefnogaeth (Trefniant partneriaeth ar gyfer asesiadau poblogaeth) (Cymru) 2015

 

Cadarnhaol

Rheoliadau

 11

(Amrywiol a Chyffredinol)

 

194 a 195

 

Preswyliad cyffredin a dadleuon ynghylch preswyliad cyffredin    

Rheoliadau Gofal a Chefnogaeth (Preswyliad Cyffredin) (Llety a Bennwyd) (Cymru) 2015

Rheoliadau Gofal a Chefnogaeth (Dadleuon ynghylch preswyliad cyffredin, etc.) (Cymru) 2015

Negyddol

Cod ymarfer

11

145

Oedolion a phlant mewn carchar, llety cadw ieuenctid a llety mechnïaeth, a Phreswyliad Cyffredin

Cod ymarfer ar gyflawni swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â rhan 11 (Amrywiol a Chyffredinol) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)

Fel yr eglurwyd yn Adran 146 (arbennig)

 



[1] http://www.legislation.gov.uk/anaw/2014/4/enacted

[2] http://Cymru.gov.uk/topics/health/publications/socialcare/arweiniad1/services/?lang=en

[3] http://Cymru.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2014/sswellbeing/?lang=en

 

[4] http://Cymru.gov.uk/topics/health/publications/socialcare/reports/advisory/?lang=en

[5] http://Cymru.gov.uk/topics/health/socialcare/act/resources/draft-regulations/?lang=en

[6] http://Cymru.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2014/8414016/?lang=en

[7] http://Cymru.gov.uk/topics/health/socialcare/partnership/?lang=en